Beth yw’r NJR?
Mae llawdriniaethau i osod cymalau newydd yn y glun a’r pen-glin yn gyffredin a llwyddiannus dros ben erbyn hyn ac yn helpu llawer o gleifion i symud yn well gyda llai o boen. Mae miloedd o lawdriniaethau o’r fath yn digwydd yn y Deyrnas Unedig bob blwyddyn.
Cafodd Cofrestrfa Genedlaethol y Cymalau (NJR) ei sefydlu gan yr Adran Iechyd a Llywodraeth Cynulliad Cymru i gasglu gwybodaeth am bob llawdriniaeth i osod cymalau newydd yn y glun a’r pen-glin a monitro perfformiad cymalau newydd yn y glun a’r pen-glin (impiadau).
Mae amrywiaeth eang o impiadau yn cael eu defnyddio yn y llawdriniaethau i osod cymalau newydd sy’n cael eu cynnal yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) a sectorau gofal iechyd annibynnol ledled Cymru a Lloegr. Mae’r Gofrestrfa yn helpu i fonitro perfformiad yr impiadau yma a pha mor effeithiol yw gwahanol fathau o lawdriniaethau, gan wella safonau clinigol er lles cleifion, clinigwyr a’r diwydiant orthopedig.
Nodau ac amcanion
Bydd yr NJR yn helpu i:
- sicrhau bod cleifion yn cael y gofal clinigol gorau yn ystod eu llawdriniaeth i osod cymalau newydd ac yn dilyn hynny
- sicrhau bod y GIG ac adnoddau gofal iechyd eraill yn cael eu defnyddio yn y ffordd orau
- gwella arferion llawfeddygol trwy adnabod arferion gorau mewn unedau orthopedig ac ysbytai
- nodi unrhyw impiadau sy’n dangos cyfraddau methiant uchel er mwyn eu tynnu oddi ar y farchnad yn ddiymdroi os bydd angen
- gwella’r ffordd y prynir impiadau newydd i’r cymalau ar sail tystiolaeth ar gyfer unedau orthopedig ac ysbytai
- rhoi tystiolaeth ynghylch impiadau sy’n gweithio orau i gleifion, clinigwyr, prynwyr gofal iechyd, comisiynwyr, rheoleiddwyr a chyflenwyr impiadau.