Chwilio    Chwilio
Maint y ffont:     Small text Medium text Large text   E-bostio'r dudalenE-bostio'r dudalenArgraffu'r dudalenArgraffu'r dudalen
Yn y safle hwn...

Adroddiadau blynyddol

Mae Adroddiadau Blynyddol NJR yn dadansoddi’r data a gyflwynir i’r NJR, gan amlygu nodau a llwyddiannau Cofrestr Genedlaethol y Cymalau, ei Phwyllgor Llywio a’i his-bwyllgorau a bydd yn cael ei ryddhau ym mis Medi bob blwyddyn.

Cyflwynwyd prif ddadansoddiadau 8fed Adroddiad Blynyddol yr NJR, sef y diweddaraf – gan gwmpasu data 2010/11 – yng Nghyd-gyfarfod Cymdeithas Orthopedig Prydain a’r Gymdeithas Orthopedig Ryngwladol yn Nulyn ar 15 Medi 2011.

Yn ogystal â chyfoeth o ddata newydd i helpu clinigwyr wella ansawdd a chanlyniadau llawdriniaethau newid cymal y glun a’r pen-glin, mae adroddiad 2011 hefyd yn cynnwys data am y ffêr am y tro cyntaf.

Atgyfnerthwyd safle’r Adroddiad Blynyddol fel adnawdd hanfodol eleni wrth iddi ddod yn orfodol cyflwyno data i’r NJR dan Gytundeb Safonol y GIG ar gyfer Gwasanaethau Aciwt ar 1af Ebrill 2011.

Uchafbwyntiau adroddiad 2011

  • Data o 1.1 miliwn o weithredoedd
  • Data 2010/11: y nifer fwyaf erioed o gyflwyniadau mewn blwyddyn unigol (179,450)
  • Y cyfraddau uchaf erioed ar gyfer cydsyniad cleifion (88.6%)
  • Data am y ffêr yn cael ei gynnwys yn yr adroddiad am y tro cyntaf
  • Adrodd am oroesi wedi’i ymestyn a’i ddiweddaru

Strwythur Adroddiad Blynyddol yr NJR

Cafodd yr adroddiad ei rannu’n dair prif ran:

• Rhan un: trosolwg cyffredinol o waith yr NJR am y flwyddyn ariannol 1af Ebrill 2010 - 31 Mawrth 2011. Mae’n darparu uchafbwyntiau ystadegol y data a ddaeth i law yn ystod 2010/11, yn crynhoi datblygiadau o bwys, ac amlinellu gwaith arfaethedig ar gyfer 2011/12.

• Rhan dau: disgrifiad o’r gweithgarwch newid cymal clun a phen-glin a adroddwyd i’r NJR ym mlwyddyn galendr 1af Ionawr - 31 Rhagfyr 2010. Hefyd yn cael ei gynnwys y mae adrodd cyfyngedig ar lawdriniaethau newid cymal y ffêr, a ddaeth yn rhan o’r NJR ar 1af Ebrill 2010.

• Rhan tri: yma rhoddir dadansoddiad o oroesiad llawdriniaethau newid clun a phen-glin gan ddefnyddio data a gyflwynwyd i’r NJR rhwng 1af Ebrill 2003 a 31 Rhagfyr 2010. Mae data gwasanaeth Ystadegau Episodau Ysbytai (HES) a Chronfa Ddata Cyfnodau Gofal Cleifion Cymru (PEDW) yn cael ei gynnwys yn y dadansoddiad hefyd.

Ymateb

Os oes gennych unrhyw sylwadau ynghylch cynnwys neu fformat yr adroddiad, mae croeso i chi gysylltu â Chanolfan yr NJR.

 

Hawlfraint © 2008 National Joint Registry Telerau ac amodau Polisi preifatrwydd Login