Cylchlythyrau Croniclo'r Cymalau
Mae cylchlythyr yr NJR (Croniclo'r Cymalau) yn cael ei gyhoeddi bob chwarter ac mae’n byrlymu hefo gwybodaeth ddefnyddiol.
Fe allwch chi lawrlwytho copïau electronig o gylchlythyr Croniclo'r Cymalau yr NJR o’r adran hon.
Mae’r rhifyn hwn yn canolbwyntio, yn bennaf, ar rai o brif gasgliadau ail Adroddiad Blynyddol yr NJR. Hefyd y mae erthygl am brofiadau claf sy’n cael clun newydd. Yn ogystal, disgrifir sut i ddefnyddio system ddarllen côd bar yr NJR.
Mae’r rhifyn hwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am ehangu rhwydwaith gefnogi’r NJR, adroddiad Rhanddeiliaid yr NJR a safbwynt Prosiect Cymalffurfiad yr Alban ar lawdriniaethau i osod cluniau a phengliniau newydd. Hefyd mae erthyglau ar NJR StatsOnline a The Hip Owners Manual.
Mae’r rhifyn hwn o’r cylchlythyr yn canolbwyntio ar welliannau i’r system gofnodi data, ac mae’n cyflwyno technegau llawfeddygol rhagosodedig uwch a sut i ddefnyddio’r cyfleuster data sylweddol. Y mae hefyd yn cyflwyno NJR StatsOnline, ar gyfer gweld ystadegau’r NJR ar y we.
Trafodir pwysigrwydd caniatâd cleifion yn y rhifyn hwn. Ar y dudalen gefn mae profiadau cleifion dros oed yr addewid sy’n cael cluniau newydd. Mae’n nodi sut gall rheolwyr data ysbytai yr NJR gwblhau technegau llawfeddygol rhagosodedig.
Mae’r rhifyn hwn o’r cylchlythyr yn canolbwyntio’n bennaf ar rai o brif gasgliadau Adroddiad Blynyddol 1af yr NJR. Dylai darllenwyr droi at yr Adroddiad Blynyddol ei hun i gael rhagor o fanylion a gwybodaeth. Mae’r adroddiad llawn a chrynodeb ar gael ar y safle hwn.
Mae’r rhifyn hwn yn amlinellu’r hyn y mae angen i ysbytai ei wneud i gasglu MDS v2. Y mae hefyd yn cynnwys manylion am rai nodweddion newydd: mapiau lleoli Cydgysylltwyr Clinigol Rhanbarthol a Chydgysylltwyr Archwilio Rhanbarthol ac adran newydd am gofnodi data ar gydrannau impiadau.
Mae’r NJR wedi cyflwyno set ddata sylfaenol (MDS v2) newydd. Mae’r rhifyn hwn yn rhoi gwybod i ddefnyddwyr am y gwelliannau sy’n dod yn sgil MDS v2. Yn rhifyn 5 hefyd mae enghraifft o arfer da o fewn ysbyty orthopedig mawr sy’n dangos ffordd lwyddiannus o gipio data’r NJR.
Yn y rhifyn hwn mae sawl erthygl am gasglu data, gan gynnwys cyflwyniad i’r newidiadau sydd ar ddod i Set Ddata Sylfaenol yr NJR, sut i chwilio am gydrannau impiadau ar gronfa ddata’r NJR ac awgrymiadau defnyddiol ynghylch edrych ar ddata o fewn ffeiliau CSV.
Mae’r rhifyn hwn yn sôn am gynnydd yr NJR ac mae’n cynnwys erthygl sy’n adlewyrchu profiad claf iau o gael pen-glin newydd. Mae gwybodaeth hefyd a allai fod o ddiddordeb arbennig i’r proffesiwn llawfeddygol.
Mae’r rhifyn hwn yn sôn am yr hyn a fu’n digwydd ers i’r NJR gael ei lansio. Mae’r rhifyn hwn yn cynnwys erthygl am ganiatâd cleifion, a gwybodaeth am beth i’w wneud os ydych ond newydd glywed am yr NJR.
Mae’r rhifyn hwn yn cyflwyno prif elfennau cofrestrfa’r NJR a sut mae’n cael ei gweithredu.