Chwilio    Chwilio
Maint y ffont:     Small text Medium text Large text   E-bostio'r dudalenE-bostio'r dudalenArgraffu'r dudalenArgraffu'r dudalen
Yn y safle hwn...

Pwyllgor llywio

Mae Pwyllgor Llywio’r NJR yn gorff cyhoeddus anadrannol ymgynghorol sy’n gyfrifol am waith a chynnydd yr NJR.

Mae’r Pwyllgor yn cael ei gadeirio gan gyn-gadeirydd Cymdeithas Genedlaethol yr Awdurdodau ac Ymddiriedolaethau Iechyd, a chadeirydd presennol Bwrdd Gwrth-dwyll a Rheoli Diogelwch y GIG, Bill Darling, a’r Is-gadeirydd yw cyn-lywydd Cymdeithas Orthopedig Prydain, yr Athro Paul Gregg.

Cyfrifoldebau

Dyma rai o gyfrifoldebau’r pwyllgor:

  • pennu rhaglen waith yr NJR a monitro ei chynnydd
  • rhoi cyngor i Weinidogion, unedau orthopedig, ysbytai a chyflenwyr impiadau ble bydd y wybodaeth yn dangos pryderon am berfformiad rhai prosthesisau
  • pennu cost yr ardoll, ar sail costau cytundebol rhedeg y Gofrestrfa a’r rhaglen waith y cytunwyd arni
  • darparu adroddiad blynyddol i Weinidogion ar berfformiad yr NJR ac, yn dilyn cytundeb y Gweinidog, sicrhau ei fod ar gael i’r cyhoedd
  • sefydlu a monitro codau ymarfer ar gyfer y contractwr sy’n delio ag unedau orthopedig o fewn ymddiriedolaeth’r GIG a darparwyr gofal iechyd annibynnol, a’r diwydiant impiadau orthopedig
  • ble bo’n briodol, hwyluso defnyddio data’r NJR am resymau ymchwil.

Aelodau a chynrychiolwyr

Mae’r Pwyllgor Llywio yn goruchwylio gweithgareddau’r NJR ac mae’n cynnwys aelodau a chynrychiolwyr o amryw o grwpiau rhanddeiliaid. Dyma aelodau’r Pwyllgor ar 1 Chwefror 2008:

 

Enw Cynrychioli Dyddiad gorffen aelodaeth
Mr Bill Darling Cadeirydd 30/09/2009
Yr Athro Paul Gregg Is-gadeirydd 30/01/2009
Proffesiwn Llawfeddygol Orthopedig 30/09/2009
Mr Martyn Porter Proffesiwn Llawfeddygol Orthopedig 31/12/2010
Mr Keith Tucker Proffesiwn Llawfeddygol Orthopedig 30/04/2010
Mr Mick Borroff Diwydiant (cyflenwr impiadau orthopedig) 30/09/2010
Mr Dean Sleigh Diwydiant (cyflenwr impiadau orthopedig) 31/01/2012
Yr Athro Alex Macgregor Iechyd y Cyhoedd ac Epidemioleg 30/09/2009
Ms Carolyn Naisby Ymarferwr â Diddordeb Arbennig mewn Orthopedeg 30/06/2010
Mr Andrew Woodhead Rheolwr Ymddiriedolaeth GIG 01/01/2010
Ms Patricia Cassidy Aelod o’r Sector Gofal Iechyd Annibynnol 19/04/2010
Ms Mary Cowern Cynrychiolydd Cleifion 30/09/2010
Ms Patricia Durkin Cynrychiolydd Cleifion 28/02/2010

Cynrychiolwyr o:

  • Cadwyn gyflenwi’r GIG
  • Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd
  • Adran Iechyd
  • Llywodraeth Cynulliad Cymru
  • Northgate Information Solutions (contractwr)
  • Tîm cydgysylltwyr clinigol rhanbarthol yr NJR
 

Hawlfraint © 2008 National Joint Registry Telerau ac amodau Polisi preifatrwydd Login