Ariannu
Mae’r NJR yn cael ei hariannu trwy ardoll pan werthir impiadau clun a’r pen-glin. Mae’r ardoll ar y gydran asetabwlaidd ar gyfer cluniau (os yw’r gydran asetabwlaidd yn un fodwlar, y mae ar y fantell allanol fetel neu brif gydran arall y cwpan), ac ar y gydran forddwydol ar gyfer pen-gliniau.
Bydd cyflenwyr impiadau cymalau yn casglu ardollau oddi wrth ymddiriedolaeth y GIG neu’r ysbyty gofal iechyd annibynnol sy’n prynu pob impiad perthnasol. Yna bydd y cyflenwyr yn anfon yr ardollau a gasglwyd at yr Adran Iechyd i dalu costau cynnal a chadw yr NJR.
Mae’r ardoll yn cael ei phennu’n flynyddol gan Bwyllgor Sefydlog yr NJR, a chafodd ei gostwng i £20.00 ar gyfer pob impiad ag ardoll o 1 Mehefin 2007.