Chwilio    Chwilio
Maint y ffont:     Small text Medium text Large text   E-bostio'r dudalenE-bostio'r dudalenArgraffu'r dudalenArgraffu'r dudalen
Yn y safle hwn...

Diogelwch a chyfrinachedd

Wrth wraidd yr NJR mae cronfa ddata o’r holl wybodaeth am osod cymalau newydd sy’n cael ei chasglu gan ysbytai (yn ddibynnol ar gael caniatâd cleifion). Er mwyn osgoi anfon cofnodion papur trwy’r post a sicrhau bod y data mor ddiogel â phosib, fe fydd yr NJR yn defnyddio system electronig i gasglu a chodio’r data ar gyfer ei drosglwyddo i’r gronfa ddata.

Pwy all ddefnyddio’r data?

Bydd data personol cleifion yn cael ei drin yn gyfrinachol bob amser ac ni ellir ei ddefnyddio y tu allan i’r NJR. Y mae ar gael i’r claf perthnasol a’i lawfeddyg yn unig.

Mae yna drefniadau i ddiogelu’r wybodaeth a’i chadw’n gyfrinachol. Gallai data sy’n cael ei gasglu trwy’r NJR gael ei ddefnyddio ar gyfer ymchwil feddygol, ble bydd wedi mynd trwy adolygiad moesegol a ble bydd disgwyl i’r canlyniadau fod o fudd sylweddol i ofal iechyd cleifion. Ond, bydd unrhyw ddata a ddarperir yn ddi-enw fel na fydd yn bosib adnabod unigolion.

Fe all cleifion ofyn am gopi o’r data personol sy’n cael ei gadw amdanynt ar yr NJR unrhyw bryd, yn unol â Deddf Diogelu Data 1998. Cysylltwch â Chanolfan yr NJR i gael rhagor o wybodaeth.

 

Hawlfraint © 2008 National Joint Registry Telerau ac amodau Polisi preifatrwydd Login