Caniatâd yr NJR
Mater gwirfoddol yw rhoi caniatâd i’ch manylion personol gael eu dal yn yr NJR, ond er mwyn i’r NJR fod ar ei mwyaf effeithiol mae angen casglu cynifer o gofnodion â phosib, gan gynnwys manylion personol cleifion. Mae’r manylion yn cynnwys:
- cyfenw
- enw cyntaf
- dyddiad geni
- rhyw
- cyfeiriad cartref a chôd post
- rhif y GIG.
Mae ar yr NJR angen eich caniatâd i gofnodi’r manylion yma er mwyn cadw at Ddeddf Diogelu Data (1998). Os na fyddwch yn rhoi eich caniatâd, dim ond manylion eich llawdriniaeth a’r impiadau fydd yn cael eu cofnodi.
Mae Ffurflen Caniatâd Cleifion yr NJR yn cael ei defnyddio i gadarnhau a ydych wedi cytuno i ni gofnodi eich manylion personol ar Gronfa Ddata’r NJR.
Mae eich ysbyty yn cadw cofnod o fanylion eich llawdriniaeth a gall roi copi i chi o’r manylion am y llawdriniaeth sydd ar yr NJR i chi eu cadw.
Os byddwch yn rhoi eich caniatâd ac yna’n newid eich meddwl, gallwch dynnu’r caniatâd yn ôl unrhyw bryd trwy gysylltu â Chanolfan yr NJR. Os na fyddwch yn rhoi eich caniatâd, fe fydd data am eich llawdriniaeth yn cael ei gynnwys heb unrhyw fanylion personol. Bydd hyn yn helpu i sicrhau na fydd hi’n bosib eich adnabod chi o fanylion y llawdriniaeth unigol.
Sut mae rhoi fy nghaniatâd?
I roi eich caniatâd bydd angen i chi lenwi Ffurflen Caniatâd Cleifion yr NJR a’i hanfon yn ôl i’ch ysbyty.
Rhagor o wybodaeth
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, pryderon neu os bydd arnoch angen rhagor o wybodaeth am yr NJR neu eich hawliau dan Ddeddf Diogelu Data (1998), cysylltwch â Chanolfan yr NJR.