Chwilio    Chwilio
Maint y ffont:     Small text Medium text Large text   E-bostio'r dudalenE-bostio'r dudalenArgraffu'r dudalenArgraffu'r dudalen
Yn y safle hwn...

Pa mor ddiogel yw fy manylion personol?

Fe fydd eich data personol yn cael ei drin yn gyfrinachol bob amser.

Mae’r NJR yn defnyddio system electronig ar gyfer casglu data. Bydd y data yn cael ei godio’n ddiogel ar gyfer ei drosglwyddo i gronfa ddata ganolog. Mae hyn yn golygu y gallwn osgoi anfon cofnodion papur trwy’r post gan sicrhau bod y data mor ddiogel â phosib.

Ni fydd eich gwybodaeth bersonol yn cael ei defnyddio y tu allan i’r NJR. Mae trefniadau i ddiogelu’r wybodaeth a’i chadw’n gyfrinachol. Os ydych yn dymuno, fe allwch chi gael copi o’ch cofnod eich hun yn unol â Deddf Diogelu Data (1998) trwy ysgrifennu at Ganolfan yr NJR.

Gallai data sy’n cael ei gasglu trwy’r NJR gael ei ddefnyddio ar gyfer ymchwil feddygol; ond, bydd y data yn ddi-enw fel na fydd hi’n bosib eich adnabod. Mae pob prosiect ymchwil yn destun adolygiad moesegol ac ni fyddant yn cael eu caniatáu oni bai fod disgwyl i’r canlyniadau fod o fudd sylweddol i ofal iechyd cleifion.

 

Hawlfraint © 2008 National Joint Registry Telerau ac amodau Polisi preifatrwydd Login