Cyflwyno’r NJR
Mae llawdriniaethau i osod cymalau newydd yn y glun a’r pen-glin yn gyffredin a llwyddiannus dros ben erbyn hyn gan helpu llawer o gleifion i symud yn well a lleddfu eu poen.
Mae’n bosib y bydd ar nifer o bobl angen llawdriniaeth arall ar yr un cymal rywbryd yn y dyfodol. Gall hyn ddigwydd am nifer o resymau, yn fwyaf cyffredin oherwydd bod impiad y cymal wedi gwisgo. Mae yna sawl math gwahanol o impiadau ar gyfer y glun a’r pen-glin, a gyda llawer ohonynt does dim data am ba mor effeithiol ydyn nhw yn y tymor hir.
Er mwyn gwneud y llawdriniaethau yn fwy llwyddiannus, fe wnaeth yr Adran Iechyd a Llywodraeth Cynulliad Cymru sefydlu Cofrestrfa Genedlaethol y Cymalau (NJR) i fonitro perfformiad impiadau cymalau.
Bwriad yr NJR yw cofnodi manylion pob llawdriniaeth i osod cymalau newydd yn y glun a’r pen-glin yng Nghymru a Lloegr. Mae’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) a’r sector gofal iechyd annibynnol yn cael eu cynnwys, ac er mwyn bod yn llwyddiannus mae angen i’r NJR gasglu gwybodaeth am gynifer o bobl sy’n cael y llawdriniaethau yma â phosib.
Sut bydd yr NJR o fudd i mi?
Fe fydd yr NJR yn cael ei defnyddio i fod o fudd uniongyrchol i gleifion trwy:
- wneud cleifion yn fwy ymwybodol o ganlyniadau gosod cymalau newydd yn y glun a’r pen-glin
- dod i wybod faint mae’r gwahanol gymalau newydd yn para
- helpu i adnabod cleifion unigol sydd wedi derbyn impiad os oes angen arolwg clinigol brys.
Fe fydd yr NJR yn cael ei defnyddio hefyd i ddod â manteision ychwanegol yn y tymor hir trwy:
- roi ymateb i lawfeddygon a thimau orthopedig er mwyn helpu i gynnal safonau clinigol uchel
- hyrwyddo cyhoeddi manylion perfformiad impiadau yn agored
- rhoi ymateb ar berfformiad impiadau i awdurdodau rheoleiddio
- rhoi ymateb i gyflenwyr am berfformiad eu himpiadau
- monitro a chymharu perfformiad ysbytai.