Chwilio    Chwilio
Maint y ffont:     Small text Medium text Large text   E-bostio'r dudalenE-bostio'r dudalenArgraffu'r dudalenArgraffu'r dudalen
Yn y safle hwn...

Eich llawdriniaeth

Y prif reswm y bydd cleifion yn cael llawdriniaeth i osod cymalau newydd yw oherwydd bod cymal wedi mynd yn rhy boenus neu’n rhy anodd i’w ddefnyddio yn ystod gweithgareddau o ddydd i ddydd.

Gosod cymalau newydd yw un o’r triniaethau mwyaf cyffredin a mwyaf llwyddiannus yn y Deyrnas Unedig. Fel gyda phob llawdriniaeth, mae yna rai risgiau y dylech eu trafod gyda’ch llawfeddyg.

Yn ystod y llawdriniaeth fe fydd y cymal problemus yn cael ei ddatgelu, a bydd wyneb y cymal a rhywfaint o feinwe asgwrn yn cael ei dynnu oddi ar bennau’r esgyrn. Yna bydd y prosthesis yn cael ei osod ar bennau’r esgyrn.

Ar ôl y llawdriniaeth fe fydd angen i chi aros yn yr ysbyty am ychydig ddyddiau, a threulio sawl wythnos o gyfnod adferiad. Bydd hyn yn eich gwneud yn gryfach a mwy dygn, gan ei gwneud hi’n haws i chi symud o gwmpas ac yn llai poenus hefyd.

Mae’r graddau y byddwch yn llwyddo i symud yn well yn dibynnu ar yr unigolyn, cyflwr y cymal cyn y llawdriniaeth a pha mor gryf yw’r cyhyrau o gwmpas eich cymalau.

 

Hawlfraint © 2008 National Joint Registry Telerau ac amodau Polisi preifatrwydd Login