Gosod clun newydd
Pelen a soced yw cymal naturiol y glun ac, ymhen amser, mae’n gallu gwisgo. Pan fydd hyn yn digwydd fe fydd y cymal yn mynd yn fwyfwy poenus ac yn y diwedd yr unig ffordd o gael gwared ar y boen a chael gwell ansawdd bywyd yw cael gosod clun newydd.
Beth yw clun newydd?
Y nod wrth osod clun newydd yw gosod wynebau artiffisial newydd ar wynebau’r cymal sydd wedi gwisgo. Mae yna lawer o wahanol fathau o gluniau newydd ar gael.
Y math traddodiadol, sydd wedi’i ddefnyddio ers blynyddoedd, yw pelen fetel ar goesyn sy’n cael ei smentio i’r forddwyd (clun) a soced blastic wedi’i smentio i’r pelfis. Dyma’r math mwyaf cyffredin o glun sy’n cael ei ddefnyddio o hyd. Gyda chleifion hŷn, mae’n annhebygol iawn y byddai angen gosod clun arall yn ystod eu hoes.
Os ydych yn glaf iau, sy’n fwy bywiog, efallai y bydd eich arbenigwr yn cynghori y byddai’n fwy priodol gosod clun newydd heb ddefnyddio sment neu gyda wynebau caletach, er enghraifft metel ar fetel neu seramig ar seramig.
Neu, efallai y bydd eich arbenigwr wedi argymell math o driniaeth sy’n rhoi wyneb newydd i’r glun. Yn y llawdriniaeth yma, yn hytrach na thynnu’r belen o gymal y glun (fel sy’n digwydd wrth osod clun newydd fel arfer), fe fydd y belen yn cael ei thorri i siâp arbennig a wyneb metel newydd yn cael ei smentio arni. Mae wyneb metel yn mynd ar y soced hefyd a bydd yn cael ei osod yn y pelfis heb ddefnyddio sment.
Gofynnwch i’ch arbenigwr pa glun y maen nhw’n ei hargymell a beth yw’r manteision a’r anfanteision.