Chwilio    Chwilio
Maint y ffont:     Small text Medium text Large text   E-bostio'r dudalenE-bostio'r dudalenArgraffu'r dudalenArgraffu'r dudalen
Yn y safle hwn...

Gosod pen-glin newydd

Y pen-glin yw’r cymal mwyaf yn y corff ac mae’n un o’r rhai mwyaf cymhleth hefyd.

Mae yna bedwar asgwrn yng nghymal y pen-glin, gyda chyhyrau, gewynnau, a thendonau yn eu cysylltu:

  • y ffemwr, sef yr asgwrn mwyaf yn y goes
  • y tibia, yr asgwrn mawr yn eich crimog
  • y ffibwla, yr asgwrn llai yn y grimog, wrth ymyl y tibia
  • padell y pen-glin (neu’r patella), sef yr asgwrn bach ar flaen y pen-glin.

Gydag amser, fe all yr esgyrn wisgo. Wrth i hyn ddigwydd bydd y cymal yn fwyfwy poenus ac yn y pen draw yr unig ffordd o leddfu’r boen a gwella eich ansawdd byw yw cael pen-glin newydd.

Beth yw pen-glin newydd?

Mae triniaeth lawn i osod pen-glin newydd yn golygu tynnu’r wynebau poenus, afiach yn nghymal y pen-glin a rhoi cydrannau metel a phlastig yn eu lle, a’r rheiny â siâp arbennig fel bod y pen-glin yn gallu parhau i symud. Mae yna lawer o wahanol fathau o ben-gliniau newydd ar gael.

Mae’r math traddodiadol o driniaethau llawn i osod pen-glin newydd yn golygu amnewid yr asgwrn ar ran isaf y ffemwr (asgwrn y glun) ac amnewid yr asgwrn ar ben y tibia.

Weithiau, dim ond un ochr i gymal y pen-glin (naill ai’r chwith neu’r dde) sydd angen ei hamnewid. Yr enw ar y math yma o driniaeth yw gosod pen-glin ungambylol.

Holwch eich arbenigwr i weld pa ben-glin y maen nhw’n ei argymell a beth yw’r manteision a’r anfanteision.

 

Hawlfraint © 2008 National Joint Registry Telerau ac amodau Polisi preifatrwydd Login