Chwilio    Chwilio
Maint y ffont:     Small text Medium text Large text   E-bostio'r dudalenE-bostio'r dudalenArgraffu'r dudalenArgraffu'r dudalen
Yn y safle hwn...
Telerau ac amodau

Gallwch ddefnyddio gwefan yr NJR yn amodol ar y telerau ac amodau canlynol:

Defnyddio gwefan yr NJR

Mae gwefan yr NJR yn cael ei chynnal i chi’n bersonol ei defnyddio a’i gwylio. Mae mynnu mynediad a defnyddio gwefan yr NJR (www.njrcentre.org.uk) sy’n dangos y telerau ac amodau hyn yn golygu eich bod yn derbyn y telerau ac amodau hyn. Maent yn dod i rym o’r dyddiad y byddwch yn defnyddio’r wefan hon am y tro cyntaf.

Rydych yn cytuno i ddefnyddio’r safle hwn am resymau cyfreithlon yn unig, ac mewn ffordd nad yw’n tresbasu ar hawliau, nac yn cyfyngu nac atal defnydd a mwynhad y safle hwn gan unrhyw drydydd person. Mae cyfyngiadau neu ataliadau o’r fath yn cynnwys, heb gyfyngiad, ymddygiad sy’n anghyfreithlon, neu a allai aflonyddu neu beri trallod neu anghyfleustra i unrhyw berson, a throsglwyddo cynnwys anllad neu dramgwyddus neu darfu ar lif arferol dialog o fewn y safle hwn.

Bydd gwybodaeth a gesglir gennym yn cael ei defnyddio gennym i adolygu’n fewnol, er mwyn gwella cynnwys gwefan yr NJR, i addasu cynnwys neu gynllun gwefan yr NJR, i hysbysu defnyddwyr am y diweddaraf ar wefan yr NJR, ac er mwyn cysylltu â defnyddwyr am resymau marchnata ac ni fydd yn cael ei rhannu â sefydliadau eraill am resymau masnachol.

Cyswllt â gwefan yr NJR

Cofiwch roi gwybod i ni os ydych yn dymuno cysylltu’n uniongyrchol â thudalennau ar wefan yr NJR trwy anfon e-bost at dîm y we yr NJR trwy’r cyswllt ‘cysylltu â ni’ isod. Ni fyddwn yn gwrthwynebu os byddwch yn cysylltu’n uniongyrchol â’r wybodaeth sy’n cael ei chynnal ar ein safle. Nid ydym yn caniatáu i’n tudalennau gael eu llwytho i fframiau ar eich safle; rhaid i dudalennau gwefan yr NJR gael eu llwytho i ffenestr lwyr y defnyddiwr.

Rydym yn mynnu’r hawl i symud neu newid URL ein gwefan unrhyw bryd er mwyn cwrdd ag anghenion busnes newidiol a gwella ein gwasanaeth ar lein yn barhaus. Bydd gwefannau allanol yn cysylltu â gwefan yr NJR ar eu menter eu hunain. Ni fyddwn yn annog gwneud cyswllt dwfn ond byddwn yn argymell gwneud cyswllt â thudalennau hafan gwahanol adrannau, sy’n llai tebygol o symud neu newid.

Eiddo deallusol

Mae’r enwau, delweddau a logos sy’n nodi gwefan yr NJR yn nodau masnachol yr Adran Iechyd. Os ydych yn dymuno copïo neu ddefnyddio logo’r NJR, rhaid i chi gael caniatâd ymlaen llaw trwy gysylltu â ni trwy gyswllt ‘cysylltu â ni’ ar y wefan hon.

Cofiwch ddweud sut a pham rydych yn dymuno defnyddio ein logos. Dylech roi eich manylion cyswllt: enw, cyfeiriad, rhif ffôn, rhif ffacs ac e-bost.

Ymwadiad

Mae gwefan yr NJR a deunydd sy’n ymwneud â gwybodaeth, cynhyrchion a gwasanaethau y Llywodraeth, (neu â gwybodaeth, cynhyrchion a gwasanaethau trydydd person), yn cael eu darparu 'fel y mae', heb wneud unrhyw gynrychiolaeth na chymeradwyaeth a heb warant o unrhyw fath boed bendant neu’n oblygedig, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i’r gwarantau goblygedig o ansawdd boddhaol, addasrwydd ar gyfer diben penodol, peidio â thresbasu, cysondeb, diogelwch a manwl gywirdeb.

Ni fyddwn yn gwarantu y bydd y swyddogaethau a gynhwysir yn y deunydd yn y safle hwn yn ddi-dor neu’n rhydd rhag gwallau, y bydd diffygion yn cael eu cywiro, nac y bydd y safle hwn neu’r gweinydd sy’n ei ddarparu yn rhydd rhag firysau nac yn cynrychioli ymarferoldeb, manwl gywirdeb, dibynadwyedd llawn y deunyddiau.

Ni fyddwn dan unrhyw amgylchiadau yn atebol am unrhyw golled neu ddifrod gan gynnwys, heb gyfyngiad, colled neu ddifrod anuniongyrchol neu ôl-ddilynol, nac unrhyw golled neu ddifrod o gwbl sy’n codi wrth ddefnyddio neu golli defnydd o, ddata neu elw sy’n codi yn sgil neu mewn cysylltiad â defnyddio gwefan yr NJR.

Er y gallwn o bryd i’w gilydd fonitro neu adolygu trafodaethau, sgyrsiau, postiadau, trosglwyddiadau, negesfyrddau a phethau cyffelyb ar wefan yr NJR, nid oes unrhyw rwymedigaeth arnom i wneud hynny ac ni fyddwn yn ysgwyddo cyfrifoldeb nac atebolrwydd sy’n codi o gynnwys unrhyw leoliadau o’r fath nac am unrhyw wall, esgeulustod, trosedd, difenwi, anlladrwydd, neu anghywirdeb a geir mewn unrhyw wybodaeth o fewn lleoliadau o’r fath ar wefan yr NJR.

Bydd y telerau ac amodau hyn yn cael eu llywodraethu a’u dehongli yn unol â deddfau Cymru a Lloegr. Bydd unrhyw anghydfod sy’n codi dan y telerau ac amodau hyn yn ddarostyngedig i awdurdodaeth cyfyngedig llysoedd Cymru a Lloegr.

Cysylltau â gwefannau allanol

Bydd cysylltau a geir ar wefan yr NJR yn arwain at wefannau eraill sydd heb fod dan ein rheolaeth. Nid ydym yn gyfrifol am gynnwys unrhyw safle cyswllt. Ni ddylid cymryd bod rhestru a chysylltu yn gymeradwyaeth o unrhyw fath ac ni fyddwn yn derbyn unrhyw atebolrwydd o ran y cynnwys. Ni allwn warantu y bydd y cysylltau hyn yn gweithio bob tro ac nid oes gennym reolaeth dros argaeledd y tudalennau cyswllt hyn.

Diogelu rhag firysau

Byddwn yn gwneud pob ymdrech i wirio a rhoi prawf ar ddeunydd ar bob cam yn ystod y broses gynhyrchu. Y mae bob amser yn ddoeth i chi redeg rhaglen wrthfirysau ar bob deunydd sy’n cael ei lawrlwytho oddi ar y Rhyngrwyd.

Ni allwn dderbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw golled, amhariad na difrod i’ch data neu eich system gyfrifiadurol a allai ddigwydd wrth ddefnyddio deunydd sy’n deillio o’r wefan hon.

Diweddarwyd Mawrth 2008

Gallwn ddiwygio’r telerau ac amodau hyn unrhyw bryd heb rybudd. Dylech eu darllen yn rheolaidd. Os byddwch yn parhau i ddefnyddio gwefan yr NJR yn dilyn newid, mae’n dangos eich bod yn derbyn y newid.

Hawlfraint © 2008 National Joint Registry Telerau ac amodauPolisi preifatrwyddLogin